Create Your First Project
Start adding your projects to your portfolio. Click on "Manage Projects" to get started
Casgliad Menai
Cleient
Hunan Gynhyrchedig
Credydau
Ffotograffydd: Huw Morris-Jones
Dyddiad
Mawrth 2021
Mae Casgliad Menai yn ganlyniad o brosiect ymchwil i mewn i ddeunyddiau, pwrpas y prosiect oedd gwthio y dylunydd i greu deunydd cyfansawdd. Yn dilyn datblygiad llwyddiannus y deunydd sydd wedi'i wneud o gregyn gleision, fe'i defnyddiwyd i ddylunio cynnyrch addas, gan arwain at Gasgliad Menai.
Wedi'i wneud o gregyn cregyn gleision, mae'r casgliad yn defnyddio cregyn a gasglwyd â llaw gan y dylunydd ar hyd glannau'r Fenai. Gan daro a torri y cregyn fe ddaeth harddwch a lliwiau’r cregyn yn amlwg, gan roi esthetig naturiol a brith i’r deunydd ac yna holl gynnyrch y casgliad.
Gan gymryd ysbrydoliaeth o’r union gragen y gwneir y casgliad ohoni, mae Casgliad Menai yn dilyn cromliniau hylifol a ffurf cragen cregyn gleision.
Fâs bach ar gael i'w brynu, e-bostiwch am fwy o wybodaeth.