top of page
Pot Menai
  • Pot Menai

    Mae Casgliad Menai yn ganlyniad o brosiect ymchwil i mewn i ddeunyddiau, pwrpas y prosiect oedd gwthio y dylunydd i greu deunydd cyfansawdd. Yn dilyn datblygiad llwyddiannus y deunydd sydd wedi'i wneud o gregyn gleision, fe'i defnyddiwyd i ddylunio cynnyrch addas, gan arwain at Gasgliad Menai.


    Wedi'i wneud o gregyn cregyn gleision, mae'r casgliad yn defnyddio cregyn a gasglwyd â llaw gan y dylunydd ar hyd glannau'r Fenai. Gan daro a torri y cregyn fe ddaeth harddwch a lliwiau’r cregyn yn amlwg, gan roi esthetig naturiol a brith i’r deunydd ac yna holl gynnyrch y casgliad.


    Gan gymryd ysbrydoliaeth o’r union gragen y gwneir y casgliad ohoni, mae Casgliad Menai yn dilyn cromliniau hylifol a ffurf cragen cregyn gleision.

    • GWYBODAETH AM Y CYNNYRCH

      Mae'n addas i ddal blodau sych ac addurniadau. Nid yw'r pot yn dal dŵr ac felly nid yw'n addas i roi dŵr yn y pot.

    £18.00Price
    Expected to ship mid to late april
    bottom of page